Adroddiad ac argymhellion yn gryno
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sy’n archwilio’r ymateb i bandemig Covid-19, ac effaith y pandemig, er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Gosodwyd ei gylch gorchwyl gan y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson.
Roedd maint y pandemig yn ddigynsail; mae gan yr Ymchwiliad amrywiaeth enfawr o faterion i’w cwmpasu. Penderfynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes (Heather) Hallett DBE, fynd i’r afael â’r her hon drwy rannu ei gwaith yn ymchwiliadau ar wahân a elwir yn fodiwlau. Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol ac mae gan bob un ei wrandawiadau cyhoeddus ei hun lle clywodd y Cadeirydd dystiolaeth.
Yn dilyn y gwrandawiadau, caiff argymhellion ar gyfer newid eu datblygu a’u rhoi mewn Adroddiad Modiwl. Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys canfyddiadau o’r dystiolaeth a gasglwyd ar draws pob modiwl ac argymhellion y Cadeirydd ar gyfer y dyfodol. Mae adroddiadau ar gyfer Modiwlau 1, 2, 3, 4 a 5 eisoes wedi’u cyhoeddi.
Mae’r chweched modiwl yn archwilio effaith y pandemig ar y sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r modiwl yn cynnwys gofal a ddarparwyd mewn cartrefi gofal i oedolion a chartrefi preswyl, yng nghartrefi pobl eu hunain gan ofalwyr proffesiynol a gofal di-dâl a ddarparwyd gan aelodau o deuluoedd neu ffrindiau. Mae’n edrych ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan lywodraeth pob gwlad ac yn ystyried:
- beth a ddigwyddodd i bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn y sector gofal yn ystod y pandemig;
- sut y gwnaeth cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal, effeithio ar breswylwyr ac ar eu hanwyliaid; a
- sut y gwnaeth y penderfyniadau i ryddhau cleifion i sicrhau bod gwelyau ysbyty ar gael, effeithio ar y rheini a oedd yn byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal.
Mae’r modiwl hefyd yn archwilio’r camau a gymerwyd mewn cartrefi gofal i atal y feirws rhag lledaenu a gallu’r sector gofal i ymateb i’r pandemig.
Bydd adroddiadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
- Modiwl 7 – Rhaglenni profi, olrhain ac ynysu
- Modiwl 8 – Plant a phobl ifanc
- Modiwl 9 – Yr ymateb economaidd i’r pandemig
- Modiwl 10 – Yr effaith ar gymdeithas
Modiwl 6: Y sector gofal
Cafodd pandemig Covid-19 effaith ddinistriol ar y miliynau lawer o bobl ledled y DU sy’n derbyn gofal cymdeithasol i oedolion. Roedd yr effaith hefyd yn niweidiol i’r miliynau mwy a ddarparodd y gofal hwnnw, boed am dâl neu’n ddi-dâl.
Roedd diogelu’r sector gofal cymdeithasol i oedolion yn ei gyfanrwydd yn ymddangos fel pe bai’n ôl-ystyriaeth. Diogelu ysbytai oedd ffocws cychwynnol pob un o’r pedair llywodraeth yn y DU. Daeth hyn ar draul pobl a oedd yn defnyddio ac yn darparu gwasanaethau gofal, er gwaethaf bregusrwydd y derbynwyr gofal. Nid oedd unrhyw “gylch amddiffynnol” o amgylch cartrefi gofal “o gychwyn cyntaf y pandemig”, fel yr honnwyd ar y pryd a pharhaodd diffyg parhaus camau gweithredu sylweddol i ddiogelu cartrefi gofal ledled y DU tan ganol mis Ebrill 2020.
Mewn cartrefi gofal, cofnodwyd dros 43,000 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 rhwng mis Mawrth 2020 a mis Gorffennaf 2022; Covid-19 oedd yr ail brif achos marwolaethau mewn cartrefi gofal ym mhob un o bedair gwlad y DU yn 2020.
Canfyddiadau allweddol
- Mae’r system gofal cymdeithasol i oedolion yn cynnwys llawer o rannau gwahanol. Roedd hyn yn golygu nad oedd hi’n hawdd i weinidogion y llywodraeth weld beth yn union a oedd yn digwydd na’i reoli. Daeth y camau a gymerwyd gan lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i geisio amddiffyn gweithwyr a defnyddwyr gofal yn rhy hwyr.
- Ym mis Mawrth 2020, penderfynodd y pedair llywodraeth gyflymu’r broses o ryddhau cleifion o ysbytai i sicrhau bod gwelyau cwbl angenrheidiol ar gael. Ond roedd y diffyg profion yn golygu bod cleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty i gartrefi gofal heb wybod a oedd ganddynt Covid-19.
- Nid oedd brechlyn ar gael ar y pryd chwaith. Er mwyn atal Covid-19 rhag lledaenu mewn cartrefi gofal, roedd yn bwysig cadw pobl ar wahân a’u hynysu oddi wrth eraill wrth ddychwelyd o’r ysbyty, rhag ofn eu bod wedi’u heintio. Fodd bynnag, ni chafodd hyn ei gynnwys yn y canllawiau swyddogol cyntaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mis Mawrth 2020. Roedd hwn yn amryfusedd sylweddol.
- Roedd canllawiau ar atal haint a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig yn cynghori gweithwyr gofal i osgoi bod o fewn dau fetr i’r sawl a oedd yn derbyn gofal. Roedd hyn yn afrealistig – mae’r rhan fwyaf o ofal cymdeithasol yn cynnwys cyswllt agos wrth helpu gyda gorchwylion bob dydd fel ymolchi, gwisgo a bwyta.
- O ganol mis Mawrth 2020, cynghorwyd gweithwyr gofal i wisgo cyfarpar diogelu personol (PPE). Fodd bynnag, roedd prinder difrifol o gyflenwadau PPE. Roedd hyn yn golygu bod gweithwyr gofal yn gorfod gweithio mewn PPE anaddas neu o ansawdd gwael, neu heb PPE o gwbl. Roedd hyn yn annerbyniol.
- Oherwydd y gallai ymwelwyr â chartrefi gofal fod â Covid-19 yn ddiarwybod a heintio preswylwyr a staff, roedd ymweliadau yn cael eu cyfyngu’n llym. Achosodd y rheolau llym a hyd y cyfyngiadau ar ymweliadau niwed aruthrol i breswylwyr a’u hanwyliaid, gan arwain yn aml at ddirywiad sylweddol yn iechyd a lles preswylwyr.
- Roedd cefnogi gweithwyr gofal i gadw draw o’u swyddi pe baent wedi’u heintio â Covid-19 hefyd yn ffordd hanfodol o’i atal rhag lledaenu. O ystyried eu rôl hollbwysig, mae angen i gymorth ariannol i amddiffyn gweithwyr gofal rhag colli cyflog fod ar waith ar ddechrau unrhyw bandemig.
- Daeth arolygiadau yn y cnawd arferol o leoliadau gofal i ben, gan oedi arolygiadau pwysig o ansawdd y gofal a oedd yn cael ei ddarparu i breswylwyr agored i niwed.
- Yn ystod y pandemig, roedd tua 5.8 miliwn o ofalwyr di-dâl ledled y DU. Roedd rhywfaint o gymorth ar gael iddynt yn ystod y pandemig ond daeth yn rhy hwyr, ac roedd problemau adnabod gofalwyr di-dâl yn ei gwneud hi’n anodd darparu cymorth.
- Yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, roedd cofrestrau gweithwyr gofal yn golygu ei bod hi’n hawdd nodi’r gweithwyr proffesiynol a oedd wedi ymddeol a’u gwahodd i ddychwelyd i’r gwaith. Roedd y cofrestrau hyn hefyd yn golygu ei bod hi’n haws cyfathrebu â’r gweithwyr i’w cyfeirio at gyngor ac arweiniad. Nid oes cofrestr o’r gweithlu yn Lloegr ar hyn o bryd.
- Roedd bylchau data yn broblem sylweddol, yn enwedig ym misoedd cynnar y pandemig. Roedd gwahaniaethau yn y ffordd roedd data am farwolaethau yn cael ei gasglu a’i gyhoeddi yn golygu nad oedd data amser real ar nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal ym mhob gwlad ar gael tan ganol a diwedd Ebrill 2020.
- Hefyd, roedd diffyg data am nifer y marwolaethau ymysg pobl a oedd yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r data sydd ar gael yn awgrymu bod mwy o bobl wedi marw yn eu cartrefi eu hunain yn ystod y pandemig na chyn y pandemig. Gan nad oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gael i ddarparu cymorth bob amser, roedd yn rhaid i fwy o ofal diwedd oes gael ei ddarparu gan bobl nad oeddent wedi’u hyfforddi i wneud hynny, gan gynnwys teulu a ffrindiau weithiau, heb y cymorth priodol na’r feddyginiaeth angenrheidiol.
- Roedd cyflymder y pandemig yn golygu bod trafodaethau sensitif am gynlluniau gofal ymlaen llaw (sy’n cofnodi dewisiadau rhywun ar gyfer eu gofal meddygol yn y dyfodol rhag ofn iddynt fynd yn ddifrifol wael) yn aml yn cael eu rhuthro neu ddim yn digwydd o gwbl. Cyn y pandemig, nid oedd yn ofynnol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol y DU gael hyfforddiant diwedd oes. Mae angen hyfforddiant gofal diwedd oes gorfodol.
- Clywodd yr Ymchwiliad bryderon am benderfyniadau ‘Peidiwch â dechrau adfywio cardiopwlmonaidd’ (DNACPR) yn cael eu gwneud mewn ffyrdd amhriodol neu ansensitif. Penderfyniad gan staff meddygol i beidio â cheisio adfywio cardiopwlmonaidd neu roi cynnig ar CPR yw DNACPR. Gall pobl ddatgan eu dymuniadau eu hunain am hyn ymlaen llaw hefyd. Mae prosesau DNACPRs yn berson-benodol ac ni ddylid eu cymhwyso i grwpiau o bobl. Rhaid trin trafodaethau am DNACPR yn sensitif ac mewn ffordd sy’n addas i bob unigolyn.
Argymhellion
Rhaid gweithredu ar argymhellion yr Adroddiad hwn nawr cyn i’r pandemig nesaf daro. Er mwyn sicrhau bod sector gofal cymdeithasol oedolion y DU yn cael ei ddiogelu’n well gyda digon o adnoddau i ymateb i’r pandemig nesaf, mae’r Ymchwiliad yn argymell:
- gwella’r trefniadau ar gyfer cynllunio ar gyfer pandemig i sicrhau strwythurau, rolau a chyfrifoldebau cliriach;
- cynllunio’n well ar gyfer gwahanu (ynysu) preswylwyr cartrefi gofal sydd â heintiau posibl, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu rhyddhau o ysbytai;
- gweithredu cynlluniau cymorth ariannol sy’n barod i’w cyflwyno er mwyn helpu staff gofal cymdeithasol i oedolion allu hunanynysu/cyfyngu ar symudiadau staff;
- cyhoeddi canllawiau ar sut y bydd penderfyniadau ar gyfyngu ar ymweliadau yn cael eu gwneud os bydd pandemig yn y dyfodol;
- cynnal gwaith arolygu a goruchwylio trwy ddatblygu protocolau i sicrhau bod arolygiadau yn gallu parhau, gan gynnwys, lle bo’n bosibl, arolygiadau ar y safle;
- gwella’r broses o gasglu data am farwolaethau gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion;
- sefydlu hyfforddiant diwedd oes gorfodol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol; a
- cydnabod a chefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol yn Lloegr trwy gyflwyno cofrestr wirfoddol.
Mae rhestr lawn o argymhellion yr Ymchwiliad wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 i’r adroddiad llawn. Mae’r Cadeirydd yn disgwyl y bydd yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu a’u rhoi ar waith. Bydd yr Ymchwiliad yn monitro gweithrediad yr argymhellion yn ystod ei oes.
I wybod mwy neu lawrlwytho copi o Adroddiad Modiwl 6 llawn neu fformatau hygyrch eraill, ewch i: https://covid19.public-inquiry.uk/cy/reports/.