Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi dechrau tair wythnos o wrandawiadau cyhoeddus ar gyfer ei ddegfed ymchwiliad, yr un olaf.
Cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer Modiwl 10 ‘Effaith ar Gymdeithas’ o ddydd Llun 16 Chwefror i ddydd Iau 5 Mawrth 2026, a byddant yn archwilio effaith Covid-19 ar bobl ledled y Deyrnas Unedig â ffocws penodol ar weithwyr allweddol, y rhai mwyaf agored i niwed, y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac iechyd a llesiant meddwl.
Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn ceisio nodi lle mae cryfderau, cydnerthedd ac arloesedd cymdeithas wedi lleihau unrhyw effeithiau negyddol. Dros y tair wythnos nesaf, mae tua 50 o dystion i fod i roi tystiolaeth yn y ganolfan wrandawiadau ac mae'r Ymchwiliad hefyd wedi derbyn tua 60 o ddatganiadau tystion.
Mae ymchwiliad Modiwl 10 yn tynnu ar ymgysylltiad cyhoeddus helaeth yr Ymchwiliad. Mae degau o filoedd o unigolion wedi rhannu eu profiadau o'r pandemig trwy Mae Pob Stori o Bwysyr ymarfer ymgysylltu cyhoeddus mwyaf a gynhaliwyd erioed gan ymchwiliad cyhoeddus yn y DU. Bydd tri chofnod Mae Pob Stori o Bwys yn cael eu rhoi yn dystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 10, gan roi cipolwg digynsail ar brofiadau pobl o brofedigaeth yn ystod y pandemig, effaith y pandemig ar iechyd meddwl pobl a phrofiadau gweithwyr allweddol.
Comisiynodd yr Ymchwiliad hefyd adolygiad trylwyr o ymchwil wyddonol i archwilio effeithiau'r pandemig ar iechyd a llesiant meddwl oedolion ledled y DU.
In addition, mYn ogystal, mae mwy na 100 o sefydliadau - sy'n cynrychioli pobl o wahanol gefndiroedd, rhanbarthau, ffydd ac amgylchiadau - i ddeall effaith y pandemig ar gymdeithas a gwahanol sectorau mor eang â phosibl. representing people from different backgrounds, regions, faiths and circumstances – to better understand the impact of the pandemic on society and different sectors as widely as possible.
Cymerodd sefydliadau ran mewn naw trafodaeth bwrdd crwn::
- Grwpiau ffydd a mannau addoli
- Undebau llafur a sefydliadau eraill sy'n cynrychioli gweithwyr allweddol
- Diogelu a chymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig
- Cymorth galar
- Carchardai, mewnfudo a lloches a'r rheini yr effeithir arnynt gan weithrediad y system gyfiawnder
- Arweinwyr busnes o'r diwydiannau lletygarwch, manwerthu, teithio a thwristiaeth
- Chwaraeon a hamdden ar lefel gymunedol
- Sefydliadau diwylliannol
- Tai a digartrefedd
Bydd naw adroddiad bwrdd crwn yn cael eu cyflwyno fel tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiadau cyhoeddus a byddant yn ymuno â chofnodion Mae Pob Stori o Bwys, tystiolaeth tystion a thystiolaeth arall a gyflwynwyd i'r Ymchwiliad i greu cofnod digynsail o brofiad pandemig y DU.
“Cafodd pandemig Covid-19 effaith enfawr ar bobl a chymunedau ledled y DU. Mae'r ymchwiliad hwn yn edrych ar gost ddynol Covid ac ymateb y DU iddo.
“Clywsom am ynysu cynyddol a diwydiannau’n cau dros nos, ond hefyd am arloesedd ac ysbryd cymunedol gwych, wrth i bobl ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu a chyfrannu at gymdeithas.
“Dyma ein cyfres olaf o wrandawiadau, a charreg filltir arwyddocaol yn nhaith yr Ymchwiliad. Bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi wyth adroddiad ychwanegol erbyn haf 2027 ac mae'r Cadeirydd, y Farwnes Hallett, yn disgwyl y bydd ei hargymhellion yn cael eu gweithredu'n llawn.
Cynhelir gwrandawiadau Modiwl 10 yng nghanolfan gwrandawiadau'r Ymchwiliad yn Paddington, Llundain ac maen nhw ar agor i'r cyhoedd eu mynychu. Nhw fydd yr wythnosau olaf o wrandawiadau cyhoeddus a gynhelir gan Ymchwiliad Covid-19 y DU cyn iddo droi ei sylw at gyhoeddi ei wyth adroddiad terfynol: pump eleni, tri yn hanner cyntaf 2027.
Ar gyfer pob un o ymchwiliadau Ymchwiliad Covid-19 y DU, bydd yr Ymchwiliad yn cynhyrchu adroddiad a lunnir gan y Cadeirydd a'i gyhoeddi cyn gynted ag y byddant yn barod. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf yr Ymchwiliad, Modiwl 1Cydnerthedd a pharadrwydd y DU’,ym mis Gorffennaf 2024. Cyhoeddwyd ei ail adroddiad, Modiwl 2Penderfyniadau craidd a llywodraethiant gwleidyddol y DU’ar draws pedair gwlad y DU, ym mis Tachwedd 2025.
Cyhoeddir adroddiadau ychwanegol trwy gydol gweddill 2026 ac i ddechrau 2027, gan ddechrau â Modiwl 3, Systemau Gofal Iechyd ddydd Iau 19 Mawrth 2026.
| Modiwl | Agorwyd ar | Yn Ymchwilio i | Dyddiadau Gwrandawiadau | Dyddiad Adroddiad |
|---|---|---|---|---|
| 3 | 8 Tachwedd 2022 | Systemau gofal iechyd | Llun 9 Medi 2024 - Iau 28 Tachwedd 2024 | 19 Mawrth 2026 |
| 4 | 5 Mehefin 2023 | Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth wrth-feirysol ledled y DU | Mawrth 14 Ionawr – Gwener 31 Ionawr 2025 | 16 Ebrill 2026 |
| 5 | 24 Hydref 2023 | Caffael | Llun 3 Mawrth – Iau 27 Mawrth 2025 | Haf 2026 |
| 6 | 12 Rhagfyr 2023 | Y sector gofal | Llun 30 Mehefin – Iau 31 Gorffennaf 2025 | Hwyr 2026 |
| 7 | 19 Mawrth 2024 | Profi, olrhain ac ynysu | Llun 12 Mai – Gwener 30 Mai 2025 | Hwyr 2026 |
| 8 | 21 Mai 2024 | Plant a phobl ifanc | Llun 29 Medi – Iau 23 Hydref 2025 | 2027 |
| 9 | 9 Gorffennaf 2024 | Ymateb economaidd | Llun 24 Tachwedd – Iau 18 Rhagfyr 2025 | 2027 |
| 10 | 12 Medi 2024 | Effaith ar gymdeithas | Llun 16 Chwefror 2026 - Iau 5 Mawrth 2026 | 2027 |