Cofnod Mae Pob Stori o Bwys Yn Gryno: Ymateb Economaidd


Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sy’n archwilio’r ymateb i’r pandemig Covid-19, a’i effaith, er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Mae'r Ymchwiliad wedi ei rannu i archwiliadau ar wahân a adnabyddir fel modiwlau. Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol â'i wrandawiadau cyhoeddus ei hun. Yn dilyn y gwrandawiadau, mae adroddiad modiwl yn cael ei gyhoeddi sy'n cynnwys canfyddiadau sy'n seiliedig ar yr holl dystiolaeth ac argymhellion y Cadeirydd ar gyfer y dyfodol.

Sut mae Mae Pob Stori o Bwys yn ffitio i mewn i waith yr Ymchwiliad

Mae'r crynodeb hwn yn ymwneud â chofnod Mae Pob Stori o Bwys ar gyfer Modiwl 9, sy'n archwilio ymateb economaidd y llywodraeth i'r pandemig Covid-19.

Mae'r cofnod yn dwyn y profiadau mae pobl wedi eu rhannu â ni ynghyd:

  • ar-lein yn maepobstoriobwys.co.uk;
  • yn y cnawd mewn digwyddiadau mewn trefi a dinasoedd ledled y DU; a
  • thrwy ymchwil wedi ei dargedu gyda grwpiau penodol o bobl.

Caiff storïau eu dadansoddi a'u defnyddio mewn cofnodion penodol i'r modiwl. Rhoddir y cofnodion hyn yn dystiolaeth ar gyfer y modiwl perthnasol.  

Nid yw Mae Pob Stori o Bwys yn arolwg nac yn ymarferiad cymharol. Ni all fod yn gynrychioliadol o holl brofiad y DU, ac ni chafodd ei gynllunio i fod yn hynny chwaith. Mae ei werth yn gorwedd mewn clywed amrediad o brofiadau, mewn cipio'r themâu sydd wedi cael eu rhannu â ni, gan ddyfynnu storïau pobl yn eu geiriau eu hunain ac, yn hollbwysig, mewn sicrhau bod profiadau pobl yn rhan o gofnod cyhoeddus yr Ymchwiliad.

Mae cofnod Modiwl 9 yn cynnwys cyfweliadau â pherchnogion a rheolwyr busnesau, arweinyddion o Fentrau Gwirfoddol, Cymunedol, a Chymdeithasol (VCSEs) - fel elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol sy'n cynorthwyo pobl a chymunedau - ac unigolion. Defnyddir cyfraniadau o storïau ffurflen ar-lein Mae Pob Stori o Bwys hefyd.

Mae rhai o'r storïau a themâu yn y cofnod yn cynnwys disgrifiadau o bobl yn colli eu swyddi ac yn wynebu caledi ariannol, y gall rhai pobl ei ganfod yn anodd i'w ddarllen. Anogir darllenwyr i geisio cymorth gan gydweithwyr, ffrindiau, teulu, grwpiau cymorth neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol lle bod angen. Darperir rhestr o wasanaethau cefnogol ar wefan Ymchwiliad Covid-19 y DU. Gwefan Ymholiad Covid-19 y DU. 

Cyflwyniad

Daeth y pandemig Covid-19 â heriau economaidd digynsail i'r DU. Mae cofnod Modiwl 9 Mae Pob Stori o Bwys yn dwyn profiadau'r bobl a effeithiwyd gan weithredoedd pedair llywodraeth y DU ynghyd i gefnogi'r economi trwy'r cyfnod heriol hwn.

Clywsom brofiadau'r rheini a barhaodd mewn cyflogaeth a'r rheini na wnaeth, y rheini a dderbyniodd gymorth ariannol a'r rheini na wnaeth a'r rheini oedd mewn rolau gwneud penderfyniadau ar gyfer eu sefydliadau, neu a gafodd benderfyniadau wedi eu gwneud drostynt.

Yn ystod y pandemig newidiodd incymau dros nos, gan achosi straen ac ansicrwydd. Daeth mynediad at rai nwyddau a gwasanaethau i ben yn sydyn tra, i eraill, agorodd cyfleoedd busnes newydd. Addasodd elusennau a VCSEau i barhau i gynorthwyo'r rheini mewn angen. Wynebodd perchenogion busnesau ansicrwydd. Darparodd ffyrlo rwyd diogelwch i rai pobl ond nid oedd yn ddigonol i lawer ar incymau isel eisoes. Mae rhai pobl yn dal i deimlo effaith yr ymateb economaidd hyd heddiw.

Effaith gychwynnol y pandemig

  • Pan gafodd cyfyngiadau symud eu cyhoeddi, canfu llawer o bobl y clywsom oddi wrthynt y newyddion yn sioc a theimlent yn ansicr iawn am ddyfodol eu gwaith a'u cyllid. Fe wnaethant wynebu tarfu ar unwaith ar eu gwaith a'u hincwm.
  • Roedd rhaid i lawer o fusnesau gau eu hadeiladau ar unwaith, gan arwain at ansicrwydd ariannol a phryder am hyd y cyfyngiadau.

Addasu a heriau

  • Addasodd rhai busnesau trwy symud ar-lein neu i weithio o bell ac roeddent yn gallu parhau i weithredu. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd rhaid i fusnesau oedd yn cyflawni gweithgareddau yn y cnawd na allai gael eu symud ar-lein gau o dan y cyfyngiadau ac o ganlyniad fe wnaethant brofi gostyngiad cyflym mewn incwm.
  • Roedd angen i fusnesau a sefydliadau oedd yn cyflenwi gwasanaethau hanfodol yn y cnawd addasu'n gyflym i weithredu mesurau diogelwch i staff a chwsmeriaid.
  • Disgrifiodd perchenogion a rheolwyr busnesau'r doll emosiynol o orfod diswyddo staff. I'r rheini a gafodd eu diswyddo arweiniodd colli eu swydd weithiau at ddiweithdra estynedig, gan effeithio ar eu cyllid a'u lles.

Pryderon ariannol achyflogaeth unigol

  • Teimlai llawer o unigolion yn bryderus am eu swyddi a'u cyllid. 
  • Gwelodd y rheini mewn rolau oedd yn wynebu'r cyhoedd a ystyriwyd heb fod yn hanfodol waith yn dod i ben ar unwaith neu cawsant eu diswyddo weithiau, gan arwain at ansicrwydd ac ofn. 
  • Nid oedd rhai o'r rheini a gafodd eu diswyddo ar ddechrau'r pandemig yn obeithiol am ganfod gwaith arall a theimlent yn ansicr iawn am y dyfodol. 
  • Wynebodd rhai unigolion galedi ariannol, gan gynnwys y rheini ar Gredyd Cynhwysol, y rheini ar incymau isel (roedd y taliad ffyrlo neu grant Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth yn seiliedig arno), rhieni sengl â phlant anabl, neu unigolion â chyflyrau iechyd neu anableddau yn bodoli eisoes.
  • Disgrifiodd eraill hefyd pa mor anodd y cawsant hi i dalu costau hanfodol yn ystod y pandemig a'r caledi ariannol sylweddol a wynebent.
  • Teimlai llawer yn neilltuol o fregus yng nghamau cynnar y pandemig oherwydd eu hamgylchiadau ariannol. Er enghraifft y rheini heb swyddi parhaol, oedd yn cael trafferth ariannol eisoes, neu'r rheini mewn dyled neu heb unrhyw gynilion. 
  • Wynebodd rhai unigolion oedd yn ariannol gyfforddus ar ddechrau'r pandemig galedi ariannol a chawsant drafferth sylweddol oherwydd iddynt golli eu swydd, gan gynnwys ar ôl cael Covid Hir. 

Canlyniadau economaidd hir-dymor i fusnesau

  • Creodd y pandemig amgylchedd economaidd anrhagweladwy â heriau parhaus fel incymau gostyngol, costau cynyddol a newid ymddygiadau cwsmeriaid fel newid amlwg tuag at brynu nwyddau ar-lein. 
  • Addasodd rhai busnesau trwy fuddsoddi mewn seilwaith gweithio o bell, gan arallgyfeirio eu modelau busnes a rhoi mesurau torri costau ar waith fel lleihau gofod swyddfa ac mewn rhai achosion gorfod diswyddo staff.

Canlyniadau economaidd hir-dymor i unigolion

  • Profodd unigolion oriau gostyngol, colli swyddi a marchnad swyddi gystadleuol. Arweiniodd hyn at ddiweithdra estynedig a chaledi ariannol dwys i lawer, yn enwedig pobl iau a phobl ar incwm isel. 
  • Barnwyd bod cymorth cyflogaeth ar-lein yn llai effeithiol na gwasanaethau yn y cnawd a theimlai pobl rwystredigaeth ynghylch y cyfleoedd swyddi cyfyngedig oedd ar gael. 
  • Canfu pobl iau yn gadael addysg lawn amser hi'n anodd i ddod o hyd i waith a dywedon nhw wrthym y cafodd y pandemig effeithiau tymor hir ar ragolygon eu gyrfaoedd.
  • Wynebai llawer o bobl galedi ariannol dwys, gan gael trafferth i fforddio pethau hanfodol a dibynnu ar fanciau bwyd, elusennau neu fenthyg gan deulu a ffrindiau. Cafodd grwpiau fel rhieni sengl, pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd oedd yn bodoli eisoes eu taro'n neilltuol o galed.

Hygyrchedd cynlluniau cymorth economaidd llywodraeth

  • Roedd dealltwriaeth o feini prawf cymhwyster yn anghyson, gan arwain at bryderon am driniaeth annheg ac anghymwyster i rai busnesau oedd yn cael trafferth yn ariannol.
  • Ysgogodd angen ariannol lawer o geisiadau am gymorth llywodraeth, er i bobl na chyflwynodd gais ddyfynnu diffyg ymwybyddiaeth, ansicrwydd ynghylch cymhwyster neu gyndynrwydd i gymryd dyled.
  • Derbyniodd rhai pobl y clywsom oddi wrthynt gymorth amserol, tra phrofodd eraill, yn enwedig yr hunangyflogedig neu'r rheini ar gontract dim oriau, oediadau. Achosodd yr oediadau hyn straen ariannol, gan gynyddu straen a gorbryder i'r rheini oedd yn aros, yn enwedig pan nad oedd gan gyfranwyr incwm tra'u bod yn aros.

Effeithiolrwydd cynlluniau cymorth economaidd llywodraeth

  • Rhannodd cyfranwyr fod cynlluniau fel ffyrlo, benthyciadau "bownsio yn ôl", a Chynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth wedi darparu cymorth hollbwysig, gan helpu busnesau i oroesi ac unigolion i osgoi cael eu diswyddo. Dywedodd llawer wrthym y gostyngodd y cynlluniau hyn straen a gorbryder trwy ddarparu sicrwydd ariannol.
  • Er gwaethaf cymorth ariannol fel y cynnydd Credyd Cynhwysol, cafodd llawer o dderbynwyr drafferth â chostau hanfodol a wynebent galedi sylweddol yn ystod y pandemig.
  • Er i rai cyfranwyr ganfod y cymorth ariannol yn fuddiol, roedd yn annigonol yn aml i gwmpasu holl gostau busnes neu aelwyd. Adroddodd eraill y syrthiodd y cymorth yn brin, gan olygu bod rhaid iddynt gymryd mesurau ariannol brys fel cymryd dyled neu ddefnyddio cynilion personol.
  • Disgrifiodd rhai perchnogion a rheolwyr busnesau ac arweinyddion VCSE sut y galluogodd y cymorth a dderbyniwyd ganddynt i newid eu modelau neu i arloesi. Er enghraifft, defnyddiodd un elusen gyllid grant i gyflawni gwasanaethau ar-lein i gynorthwyo pobl sy'n agored i niwed a helpu brwydro yn erbyn bod yn ynysig. Mewn enghraifft arall, arallgyfeiriodd busnes lletygarwch ei gynigion, gan gynnwys clicio a chasglu, siop fwyd a diod, a thryc bwyd i ddenu cwsmeriaid wrth i gyfyngiadau lacio.
  • The ¹‘Eat Out to Help OutDerbyniodd y cynllun ‘Estyn Llaw drwy Fwyta Allan’ adolygiadau cymysg. Adroddodd rhai busnesau am gynnydd mewn masnach tra bod y cynllun mewn grym, ond nid i lefelau cyn y pandemig. Disgrifiodd eraill gael eu hwynebu â'r penderfyniad o ddod a staff yn ôl o ffyrlo heb wybod os byddai'r cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan yn cynhyrchu digon o incwm i dalu am eu cyflogau.
  • Canfu rhai pobl fod newidiadau'r llywodraeth i gynorthwyo yn ystod y pandemig yn tarfu ac yn drysu, gyda rhai yn colli mynediad hanfodol at gymorth roedden nhw'n dibynnu arno. 
  • Dywedodd perchenogion a rheolwyr busnesau ac arweinyddion VCSE fod gan y rhan fwyaf o gymorth ddyddiadau gorffen gosodedig, gan eu galluogi i gynllunio ymlaen. Er i ffyrlo leihau yn raddol, derbyniodd rhai unigolion hysbysiad ymlaen llaw gan eu galluogi i baratoi. Fodd bynnag, dywedodd eraill iddynt dderbyn ychydig neu ddim rhybudd, gan greu ansicrwydd a gorbryder. 
  • Cafodd rhai busnesau drafferthion neu aethant yn fethdalwyr ar ôl i gymorth ddod i ben. Arweiniodd diwedd ffyrlo at golli swyddi i rai pobl. 

The Eat Out to Help Out scheme was a UK government initiative that was announced in July 2020 and launched in August 2020 to support the hospitality sector during the pandemic. Further information on the scheme can be found here: https://www.gov.uk/government/publications/coronavirus-eat-out-to-help-out-scheme-screening-equality-impact-assessment/coronavirus-eat-out-to-help-out-scheme

Gwelliannau a awgrymir ar gyfer y dyfodol 

  • Pwysleisiodd llawer o gyfranwyr pa mor bwysig oedd hi i baratoi ar gyfer pandemigau'r dyfodol trwy gael cynlluniau manwl ar gyfer sut y byddai cymorth ariannol yn gweithio'n ymarferol i sicrhau mynediad cydradd a theg.
  • Canfu unigolion hunangyflogedig gymorth ariannol yn annigonol yn aml, gyda llawer ddim yn gymwys. Fe wnaethant ddadlau i gynlluniau'r dyfodol gael eu teilwra gyda golwg ar hunangyflogaeth, gan gynnig cymorth ehangach a ystyriodd gyfrifoldebau teulu a gofal, incwm aelwydydd, a phwysau ariannol presennol.
  • Dywedodd cyfranwyr y gwellodd cyfathrebu eglur gan gyflogwyr, llywodraeth a chynghorau lleol fynediad at gymorth ariannol. Ar gyfer pandemigau'r dyfodol maen nhw am i lywodraethau rannu gwybodaeth yn rhagweithiol trwy sianeli uniongyrchol (e-bost, post, teleffon) a chyfryngau i godi ymwybyddiaeth.
  • Awgrymodd rhai perchenogion a rheolwyr busnesau blatfform neu wefan canoledig ar gyfer gwybodaeth cymorth ariannol. Roedd hyn yn neilltuol o bwysig i unigolion oedd am gael cyfarwyddyd eglurach ar sut i ymgeisio am gymorth ariannol heb ei ddosbarthu'n awtomatig trwy gyflogwyr neu lywodraethau. Gofynnodd perchenogion busnes ac arweinyddion VCSE am iaith symlach, meini prawf cymhwyster eglur a chamau ymgeisio hawdd i hybu ymgymryd. 
  • Roedd eisiau cymorth ariannol cyflymach, mwy hyblyg a mwy hirhoedlog mewn pandemig yn y dyfodol ar rai cyfranwyr. Fe wnaethant amlygu canlyniadau ariannol negyddol oediadau rhag i gymorth gael ei gyflwyno, fel busnes yn cau a dyled bersonol. 
  • Awgrymodd perchenogion a rheolwyr busnes ac arweinyddion VCSE ostyngiad mwy graddol mewn cymorth ariannol i helpu trawsnewid yn ôl i weithrediadau arferol.
  • Dadleuodd rhai perchenogion a rheolwyr busnes, ac arweinyddion VCSE i gymorth ariannol gael ei deilwra i ofynion busnes unigol. Fe wnaethant gynnig cymhwyster hyblyg i fusnesau newydd a system gymorth haenog i sicrhau hygyrchedd ehangach.
  • Awgrymodd rhai perchenogion a rheolwyr busnes gymorth ariannol mwy hyblyg, gan gynnwys grantiau, ad-daliadau benthyciadau haws, a threthi busnes a TAW gostyngol i sectorau fel lletygarwch. 

I ddysgu mwy neu i lawrlwytho copi o'r cofnod llawn neu fformatau hygyrch eraill,ewch i: https://covid19.public-inquiry.uk/every-story-matters/records/