Ymateb economaidd (Modiwl 9)

Bydd Modiwl 9 yn archwilio’r ymyriadau economaidd a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig mewn ymateb i bandemig Covid-19.


Agorodd Modiwl 9 ddydd Mawrth 9 Gorffennaf 2024. Bydd y modiwl hwn yn edrych ar, ac yn gwneud argymhellion ar, y cymorth economaidd i fusnes, swyddi, yr hunangyflogedig, pobl agored i niwed, a’r rhai ar fudd-daliadau, ac effaith ymyriadau economaidd allweddol.

Bydd y modiwl hefyd yn ystyried cyllid ychwanegol a roddir i wasanaethau cyhoeddus perthnasol a'r sectorau gwirfoddol a chymunedol. Mae rhagor o fanylion am y meysydd ymchwilio wedi'u cynnwys yn y cwmpas amodol ar gyfer Modiwl 9.

Cynhaliwyd gwrandawiadau Modiwl 9 o 24 Tachwedd 2025 – 18 Rhagfyr 2025. Gellir gweld dyddiadau gwrandawiadau ar gyfer y modiwl hwn ar wefan yr Ymchwiliad. tudalen gwrandawiadau.