“Cost ddynol Covid”: Ymchwiliad yn lansio wythnosau olaf gwrandawiadau cyhoeddus wrth i filoedd o storïau ddatgelu effaith barhaol y pandemig ar gymdeithas

  • Cyhoeddwyd: 16 Chwefror 2026
  • Pynciau: Gwrandawiadau

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi dechrau tair wythnos o wrandawiadau cyhoeddus ar gyfer ei ddegfed ymchwiliad, yr un olaf. 

Cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer Modiwl 10 ‘Effaith ar Gymdeithas’ o ddydd Llun 16 Chwefror i ddydd Iau 5 Mawrth 2026, a byddant yn archwilio effaith Covid-19 ar bobl ledled y Deyrnas Unedig â ffocws penodol ar weithwyr allweddol, y rhai mwyaf agored i niwed, y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac iechyd a llesiant meddwl. 

Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn ceisio nodi lle mae cryfderau, cydnerthedd ac arloesedd cymdeithas wedi lleihau unrhyw effeithiau negyddol. Dros y tair wythnos nesaf, mae tua 50 o dystion i fod i roi tystiolaeth yn y ganolfan wrandawiadau ac mae'r Ymchwiliad hefyd wedi derbyn tua 60 o ddatganiadau tystion.

Mae ymchwiliad Modiwl 10 yn tynnu ar ymgysylltiad cyhoeddus helaeth yr Ymchwiliad. Mae degau o filoedd o unigolion wedi rhannu eu profiadau o'r pandemig trwy Mae Pob Stori o Bwysyr ymarfer ymgysylltu cyhoeddus mwyaf a gynhaliwyd erioed gan ymchwiliad cyhoeddus yn y DU. Bydd tri chofnod Mae Pob Stori o Bwys yn cael eu rhoi yn dystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 10, gan roi cipolwg digynsail ar brofiadau pobl o brofedigaeth yn ystod y pandemig, effaith y pandemig ar iechyd meddwl pobl a phrofiadau gweithwyr allweddol. 


Comisiynodd yr Ymchwiliad hefyd adolygiad trylwyr o ymchwil wyddonol i archwilio effeithiau'r pandemig ar iechyd a llesiant meddwl oedolion ledled y DU.

In addition, mYn ogystal, mae mwy na 100 o sefydliadau - sy'n cynrychioli pobl o wahanol gefndiroedd, rhanbarthau, ffydd ac amgylchiadau - i ddeall effaith y pandemig ar gymdeithas a gwahanol sectorau mor eang â phosibl. representing people from different backgrounds, regions, faiths and circumstances – to better understand the impact of the pandemic on society and different sectors as widely as possible.

Cymerodd sefydliadau ran mewn naw trafodaeth bwrdd crwn::

  • Grwpiau ffydd a mannau addoli
  • Undebau llafur a sefydliadau eraill sy'n cynrychioli gweithwyr allweddol 
  • Diogelu a chymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig 
  • Cymorth galar 
  • Carchardai, mewnfudo a lloches a'r rheini yr effeithir arnynt gan weithrediad y system gyfiawnder 
  • Arweinwyr busnes o'r diwydiannau lletygarwch, manwerthu, teithio a thwristiaeth 
  • Chwaraeon a hamdden ar lefel gymunedol 
  • Sefydliadau diwylliannol 
  • Tai a digartrefedd 

Bydd naw adroddiad bwrdd crwn yn cael eu cyflwyno fel tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiadau cyhoeddus a byddant yn ymuno â chofnodion Mae Pob Stori o Bwys, tystiolaeth tystion a thystiolaeth arall a gyflwynwyd i'r Ymchwiliad i greu cofnod digynsail o brofiad pandemig y DU. 

“Cafodd pandemig Covid-19 effaith enfawr ar bobl a chymunedau ledled y DU. Mae'r ymchwiliad hwn yn edrych ar gost ddynol Covid ac ymateb y DU iddo. 

“Clywsom am ynysu cynyddol a diwydiannau’n cau dros nos, ond hefyd am arloesedd ac ysbryd cymunedol gwych, wrth i bobl ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu a chyfrannu at gymdeithas. 

“Dyma ein cyfres olaf o wrandawiadau, a charreg filltir arwyddocaol yn nhaith yr Ymchwiliad. Bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi wyth adroddiad ychwanegol erbyn haf 2027 ac mae'r Cadeirydd, y Farwnes Hallett, yn disgwyl y bydd ei hargymhellion yn cael eu gweithredu'n llawn.

Dywedodd Ben Connah, Ysgrifennydd yr Ymchwiliad:

Cynhelir gwrandawiadau Modiwl 10 yng nghanolfan gwrandawiadau'r Ymchwiliad yn Paddington, Llundain ac maen nhw ar agor i'r cyhoedd eu mynychu. Nhw fydd yr wythnosau olaf o wrandawiadau cyhoeddus a gynhelir gan Ymchwiliad Covid-19 y DU cyn iddo droi ei sylw at gyhoeddi ei wyth adroddiad terfynol: pump eleni, tri yn hanner cyntaf 2027.

Ar gyfer pob un o ymchwiliadau Ymchwiliad Covid-19 y DU, bydd yr Ymchwiliad yn cynhyrchu adroddiad a lunnir gan y Cadeirydd a'i gyhoeddi cyn gynted ag y byddant yn barod. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf yr Ymchwiliad, Modiwl 1Cydnerthedd a pharadrwydd y DU’,ym mis Gorffennaf 2024. Cyhoeddwyd ei ail adroddiad, Modiwl 2Penderfyniadau craidd a llywodraethiant gwleidyddol y DU’ar draws pedair gwlad y DU, ym mis Tachwedd 2025. 

Cyhoeddir adroddiadau ychwanegol trwy gydol gweddill 2026 ac i ddechrau 2027, gan ddechrau â Modiwl 3, Systemau Gofal Iechyd ddydd Iau 19 Mawrth 2026. 

Modiwl Agorwyd ar Yn Ymchwilio i Dyddiadau Gwrandawiadau Dyddiad Adroddiad
3 8 Tachwedd 2022 Systemau gofal iechyd Llun 9 Medi 2024 - Iau 28 Tachwedd 2024 19 Mawrth 2026
4 5 Mehefin 2023 Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth wrth-feirysol ledled y DU Mawrth 14 Ionawr – Gwener 31 Ionawr 2025 16 Ebrill 2026
5 24 Hydref 2023 Caffael Llun 3 Mawrth – Iau 27 Mawrth 2025 Haf 2026
6 12 Rhagfyr 2023 Y sector gofal Llun 30 Mehefin – Iau 31 Gorffennaf 2025 Hwyr 2026
7 19 Mawrth 2024 Profi, olrhain ac ynysu Llun 12 Mai – Gwener 30 Mai 2025 Hwyr 2026
8 21 Mai 2024 Plant a phobl ifanc Llun 29 Medi – Iau 23 Hydref 2025 2027
9 9 Gorffennaf 2024 Ymateb economaidd Llun 24 Tachwedd – Iau 18 Rhagfyr 2025 2027
10 12 Medi 2024 Effaith ar gymdeithas Llun 16 Chwefror 2026 - Iau 5 Mawrth 2026 2027