Caffael (Modiwl 5)


Agorodd Modiwl 5 ar 24 Hydref 2023. Mae'r modiwl hwn yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ynghylch caffael a dosbarthu offer a chyflenwadau allweddol sy'n gysylltiedig â gofal iechyd i ddefnyddwyr terfynol ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, gan gynnwys PPE, awyryddion ac ocsigen.

Bydd y modiwl yn asesu cadernid ac effeithiolrwydd prosesau caffael, digonolrwydd yr eitemau a gafwyd (gan gynnwys eu manyleb, eu hansawdd a'u cyfaint) ac effeithiolrwydd eu dosbarthiad i'r defnyddiwr terfynol. Mae hefyd yn ystyried caffael profion llif ochrol a phrofion PCR ledled y DU.

Cynhaliwyd gwrandawiadau Modiwl 5 o 3 Mawrth – 27 Mawrth 2025. Gellir gweld dyddiadau gwrandawiadau blaenorol ar gyfer y modiwl hwn ar wefan yr Ymchwiliad. tudalen gwrandawiadau.