Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer 2026. Yn yr hyn fydd yn flwyddyn brysur i'r Ymchwiliad, bydd yn cynnal ei set olaf o wrandawiadau cyhoeddus ar gyfer ei archwiliad Effaith ar Gymdeithas (Modiwl 10) o Ddydd Llun 16 Chwefror - Dydd Iau 5 Mawrth.
Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn cyhoeddi pump adroddiad ychwanegol gan gwmpasu Systemau Godal Iechyd, Brechlynnau a Therapiwteg, Caffael, y Sector Gofal, a Phrofi, Olrhain ac Ynysu.
Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi yn dilyn dadansoddiad trwyadl o'r dystiolaeth a gyflwynir i'r Ymchwiliad ar gyfer pob archwiliad. Bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett, yn amlinellu ei chanfyddiadau yn yr adroddiadau, gan ddisgwyl y bydd yr holl argymhellion a dderbynnir yn cael eu gweithredu heb oedi.
Ar 19 Mawrth 2026, bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi ei adroddiad Modiwl 3 ar Systemau Gofal Iechyd, wedi'i ddilyn gan gyhoeddi adroddiad Modiwl 4 ar Frechlynnau a Therapiwteg ar 16 Ebrill. Mae'r adroddiadau hyn yn dilyn gwrandawiadau cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Medi-Tachwedd 2024 ac ym mis Ionawr 2025.
Bydd haf 2026 yn gweld cyhoeddi adroddiad Modiwl 5, sy'n archwilio Caffael. Cyn diwedd y flwyddyn, bydd adroddiadau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Modiwl 6, sy'n archwilio'r Sector Gofal, a Modiwl 7, sy'n archwilio Profi, Olrhain ac Ynysu.
Bydd y tri adroddiad sy'n weddill yn cael eu cyhoeddi yn hanner cyntaf 2027.
Bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad hwn, y Farwnes Heather Hallett, yn amlinellu ei chanfyddiadau a'i hargymhellion mewn pump adroddiad gwahanol eleni, gan ddisgwyl y bydd ei hargymhellion yn cael eu gweithredu heb oedi.
"Byddwn yn monitro gweithredu'r argymhellion hyn, gan ofyn i lywodraethau ym mhob un o'r pedair cenedl gyhoeddi eu hymateb o fewn chwe mis o adroddiad yn cael ei gyhoeddi."
"Mae gweithredu argymhellion y Cadeirydd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y DU wedi'i pharatoi yn well ar gyfer y pandemig nesaf.
Mae chwarter cyntaf 2026 hefyd yn gweld gwrandawiadau'r Ymchwiliad ar gyfer ei ddegfed archwiliad a'r un olaf, Effaith ar Gymdeithas. Bydd y modiwl hwn yn archwilio effaith y pandemig ar boblogaeth y DU, â ffocws neilltuol ar iechyd meddwl a lles, gweithwyr allweddol, y rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai mewn profedigaeth. Bydd gwrandawiadau yn digwydd o 16 Chwefror i 5 Mawrth yng nghanolfan wrandawiadau'r Ymchwiliad yn Llundain. Bydd yr ymchwiliad yn cael ei ffurfio gan dri o Gofnodion Mae Pob Stori o Bwys a mewnwelediadau o naw sesiwn bord gron a gynhaliwyd llynedd i gasglu gwybodaeth am brofiad unigolion, cymunedau a grwpiau yn ystod y pandemig.
Mae Hugo Keith KC wedi camu i lawr fel Cwnsler i'r Ymchwiliad ar ôl pedair blynedd ddwys. Arweiniodd gynllun yr Ymchwiliad ac roedd yn Gwnsler arweiniol mewn tri o bedwar ymchwiliad cyntaf yr Ymchwiliad.
Gan ddiolch iddo am ei waith, dywedodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett:
Mae’r Ymchwiliad mewn dyled fawr i Mr Keith am ei holl waith caled a'i gyngor doeth. Heb ei arweinyddiaeth ni fyddai ymchwiliadau cynnar yr Ymchwiliad wedi symud ymlaen mor gyflym nac mor arbenigol.
Mae Jacqueline Carey KC wedi olynu Mr Keith a daeth yn Gwnsler arweiniol i'r Ymchwiliad ar 1 Ionawr 2026 yn ogystal â'i rôl yn arwain dau o ymchwiliadau'r Ymchwiliad i Systemau Gofal Iechyd (Modiwl 3) a'r Sector Gofal (Modiwl 6).
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi'i rannu'n 10 ymchwiliad gwahanol – neu 'Modiwlau' – sy'n archwilio gwahanol rannau o baratoadau ac ymateb y DU i'r pandemig a'i effaith. Cafodd yr adroddiad ar y modiwl cyntaf. Cydnerthedd a Pharodrwydd, ei gyhoeddi ar 18 Gorffennaf 2024 a'r adroddiad ar yr ail fodiwl, Gwneud Penderfyniadau Craidd a Llywodraethiant Gwleidyddol y DUei gyhoeddi ar 20 Tachwedd 2025.
Ceir rhestr lawn o'r pynciau y bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio iddynt yn y sianel YouTube yr Ymchwiliad.
| Modiwl | Agorwyd ar | Yn Ymchwilio i | Dyddiadau Gwrandawiadau | Dyddiad Adroddiad |
|---|---|---|---|---|
| 3 | 8 Tachwedd 2022 | Systemau gofal iechyd | Llun 9 Medi 2024 - Iau 28 Tachwedd 2024 | 19 Mawrth 2026 |
| 4 | 5 Mehefin 2023 | Brechlynnau, therapiwteg a thriniaeth gwrth-feirws ledled y DU | Mawrth 14 Ionawr – Gwener 31 Ionawr 2025 | 16 Ebrill 2026 |
| 5 | 24 Hydref 2023 | Caffael | Llun 3 Mawrth – Iau 27 Mawrth 2025 | Haf 2026 |
| 6 | 12 Rhagfyr 2023 | Y sector gofal | Llun 30 Mehefin – Iau 31 Gorffennaf 2025 | Hwyr 2026 |
| 7 | 19 Mawrth 2024 | Profi, olrhain ac ynysu | Llun 12 Mai – Gwener 30 Mai 2025 | Hwyr 2026 |
| 8 | 21 Mai 2024 | Plant a phobl ifanc | Llun 29 Medi – Iau 23 Hydref 2025 | 2027 |
| 9 | 9 Gorffennaf 2024 | Ymateb economaidd | Llun 24 Tachwedd – Iau 18 Rhagfyr 2025 | 2027 |
| 10 | 17 Medi 2024 | Effaith ar gymdeithas | Llun 16 Chwefror 2026 - Iau 5 Mawrth 2026 | 2027 |