Gwytnwch a pharodrwydd (Modiwl 1)


Agorodd Modiwl 1 ar 21 Gorffennaf 2022 ac ymchwiliodd i wytnwch a pharodrwydd y DU ar gyfer y pandemig. Ystyriodd os oedd cynllun priodol ar gyfer y pandemig ac os oedd y DU yn barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw. Cyffyrddodd y modiwl hwn â'r system gyfan o argyfyngau sifil gan gynnwys darparu adnoddau, rheoli risg a pharodrwydd ar gyfer pandemig. Bu’n craffu ar benderfyniadau’r llywodraeth yn ymwneud â chynllunio a chynhyrchodd set o argymhellion.

Mae'r adroddiad ar gyfer y modiwl hwn ei gyhoeddi ar 18 Gorffennaf 2024. Mae'n archwilio cyflwr strwythurau a gweithdrefnau canolog y DU ar gyfer parodrwydd, gwytnwch ac ymateb i argyfwng y pandemig.

Ar 17 Ionawr 2025, rhoddodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, y wybodaeth ddiweddaraf ar ôl derbyn ymatebion y llywodraeth:

Ar 18 Gorffennaf 2024, cyhoeddais fy adroddiad cyntaf ar gyfer Modiwl 1, a oedd yn archwilio gwytnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig ar gyfer pandemig Covid-19.

Yn yr adroddiad nodais gyfres o ganfyddiadau ac argymhellion a gyflwynwyd i bedair llywodraeth y Deyrnas Unedig – llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun, a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig.

Gosodais ddyddiad cau o chwe mis iddynt ymateb o ddyddiad cyhoeddi'r adroddiad. Ddoe cyrhaeddodd pob un o'r pedair llywodraeth fy mhen amser ac mae eu hymatebion wedi'u cyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad. Byddaf yn ystyried eu holl ymatebion yn ofalus yn y dyddiau nesaf.

Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU, y Farwnes Hallett