Ymchwiliad yn agor ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gylch Gorchwyl

  • Cyhoeddwyd: 10 Mawrth 2022
  • Pynciau: Ymgynghoriad

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gylch Gorchwyl drafft. Dros y pedair wythnos nesaf, bydd yr Ymchwiliad yn ceisio barn y cyhoedd, teuluoedd mewn profedigaeth, cyrff proffesiynol, a grwpiau cymorth ar y Cylch Gorchwyl drafft. Bydd y Cylch Gorchwyl yn nodi cwmpas yr Ymchwiliad. 

Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu at y cyhoedd yn nodi sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad cyhoeddus.

Gellir gweld Cylch Gorchwyl drafft yr Ymgynghoriad.

Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddwch chi’n gallu dweud eich dweud ynglŷn â’r materion canlynol: 

  • A ydych chi’n meddwl bod y Cylch Gorchwyl drafft yn cwmpasu’r holl feysydd y dylai’r Ymchwiliad roi sylw iddynt; 
  • Pa bynciau neu faterion ddylai’r Ymchwiliad edrych arnynt gyntaf; 
  • A ydych chi’n meddwl y dylai’r Ymchwiliad osod dyddiad pryd y bwriedir dod â’i wrandawiadau cyhoeddus i ben; 
  • Sut rydych chi’n meddwl y dylai’r Ymchwiliad gael ei gynllunio a’i gynnal er mwyn sicrhau y bydd lleisiau pobl sydd wedi cael profedigaeth neu’r rhai sydd wedi dioddef niwed neu galedi o ganlyniad i’r pandemig yn cael eu clywed. 

Gall unrhyw un yn y DU gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein, sydd ar agor tan 7 Ebrill 2022 am 23:59.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.

Os oes angen yr ymgynghoriad arnoch mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch contact@covid19.public-inquiry.uk neu ysgrifennwch atom yn:

FREEPOST
Ymchwiliad Covid-19 y DU 

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi dod i ben, bydd y Cadeirydd yn ystyried safbwyntiau’r cyhoedd ynglŷn â’r Cylch Gorchwyl drafft cyn argymell unrhyw newidiadau i’r Prif Weinidog. Bydd hyn yn cael ei wneud cyn gynted â phosib, er mwyn caniatáu i’r Ymchwiliad ddechrau ar ei waith.